Preview Mode Links will not work in preview mode

Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear


Nov 17, 2019

Mae’r bennod hon yn canolbwyntio ar ddisgwyliadau amgylcheddol newydd i ffermwyr yng Nghymru yn enwedig o ran rheoli maetholion. O'r 1af Ionawr 2020, bydd rheolau newydd yn cael eu cyflwyno i reoli pan fydd nitrogen a gwrtaith yn cael ei wasgaru ar y tir, faint o gapasiti storio sydd ei angen ar gyfer slyri yn ogystal â'r angen i baratoi cynlluniau a chofnodion manwl.

Gan ragweld y rheolau newydd hyn, trefnodd Cyswllt Ffermio ddigwyddiad (ar y cyd gyda AHDB) ar Fferm Coleg Gelli Aur. Un o'r prif siaradwyr oedd yr Ysgolhaig Nuffield, Rick de Vor or Iseldiroedd. Wnaeth Aled ddal i fyny ag ef yn ystod y dydd i ddysgu mwy am sut mae wedi addasu i ffermio o fewn rheoliadau llym iawn ynghylch rheoli maetholion a sut mae wedi'i weld rhai buddion i'w fusnes.