Jan 29, 2026
Farmers know their land
better than anyone — but keeping track of the wildlife that visits
their farms can be a challenge. Traditional bird surveys require
time and specialist knowledge, so a new project is turning to
innovative, AI‑powered technology to help.
In this episode, we explore how Chirrup acoustic monitors are
being used across fourteen farms in Wales to automatically capture
and identify birdsong during the dawn chorus. These small,
battery‑powered devices record daily over a 2–3 week period,
generating invaluable insights into the birdlife found on a wide
range of farm types, from upland sheep farms to productive lowland
dairy units.
Farming Connect Biodiversity Officer Lynfa Davies visits
Rhys Davies of Moor Farm in Holywell to
discover which species are thriving on his North Wales dairy farm.
They’re joined by ornithologist Keith Offord, who helps unpack the
project’s encouraging findings and what they reveal about
biodiversity on working farms.
Tune in to learn how technology, farming, and conservation are
coming together to better understand and support Wales’s bird
populations.
Pennod
127 - Defnyddio synwyryddion acwstig i
fonitro bioamrywiaeth ffermydd
Mae ffermwyr yn adnabod eu
tir yn well nag unrhyw un - ond gall cadw golwg ar y bywyd gwyllt
sy'n ymweld â'u ffermydd fod yn her. Mae arolygon adar traddodiadol
yn gofyn am amser a gwybodaeth arbenigol, felly mae prosiect newydd
yn troi at dechnoleg arloesol, wedi'i grymuso gan ddeallusrwydd
artiffisial (AI) i helpu.
Yn y bennod hon, rydym yn edrych ar sut mae monitorau acwstig
Chirrup yn cael eu defnyddio ar draws pedair fferm ar ddeg yng
Nghymru i ddal ac adnabod cân yr adar yn awtomatig yn ystod côr y
wawr. Mae'r dyfeisiau bach hyn, sy'n cael eu pweru gan fatri, yn
recordio'n ddyddiol dros gyfnod o 2-3 wythnos, gan roi cipolwg
amhrisiadwy ar yr adar sy'n bresennol ar ystod eang
o ffermydd, o ffermydd defaid ucheldir i unedau llaeth
cynhyrchiol ar dir isel.
Mae Lynfa Davies, Swyddog Bioamrywiaeth Cyswllt Ffermio, yn
ymweld â Rhys Davies o Moor Farm yn Nhreffynnon i ddarganfod pa
rywogaethau sy'n ffynnu ar ei fferm laeth yng Ngogledd Cymru. Mae'r
adaregydd Keith Offord yn ymuno â nhw, sy'n helpu i ddadansoddi
canfyddiadau calonogol y prosiect a'r hyn maen nhw'n ei ddatgelu am
fioamrywiaeth ar ffermydd gweithredol.
Gwrandewch ar y bennod hon er mwyn dysgu sut mae technoleg,
ffermio a chadwraeth yn dod at ei gilydd i ddeall a chefnogi
poblogaethau adar Cymru yn well.