Preview Mode Links will not work in preview mode

Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear


Jul 12, 2020

Er gwaethaf yr heriau y mae'r diwydiant twristiaeth wedi'u hwynebu yn ystod y misoedd diwethaf y sgil pandemig Covid-19, bu diddordeb o'r newydd mewn arallgyfeirio i fythynnod gwyliau. Gyda mwy o bobl yn ystyried aros yn y DU ar gyfer eu gwyliau, a allai hyn fod yn gyfle i fusnesau ffermio?

Yn y bennod hon, rydym yn clywed stori un o’n cyd-gyflwynwyr, Jim Ellis. Mae ei deulu wedi cyfuno ffermio â thwristiaeth ers blynyddoedd lawer ac yn ddiweddar mae Jim wedi cwblhau prosiect adnewyddu mawr ar ffermdy Plas Gwyn. Tiwniwch fewn i glywed mwy am ei brofiadau a sut mae Jim wedi defnyddio'i sgiliau mewn marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol i ddefnydd da.